Rhieni

Presenoldeb


Mae presenoldeb rheolaidd a phrydlondeb yn holl bwysig os yw disgyblion am fod yn llwyddiannus yn yr ysgol. Disgwyliwn i’r disgyblion gyrraedd yr ysgol a’r gwersi yn brydlon.

Os yw rhieni yn dymuno mynd a’u plant ar wyliau yn ystod amser ysgol, dylid gofyn caniatád y Pennaeth Strategol trwy gysylltu â hi i drafod y cais. Os na wneir hyn, bydd yr absenoldeb yn cael ei gofnodi fel un ‘Heb Awdurdod’, ac yn cael ei drin felly. Pwysleisir nad ydym o blaid i ddisgyblion fethu ysgol ar gyfer gwyliau. Gyda nifer o gyrsiau sy’n arwain at gymhwyster yn dibynnu ar bresenoldeb, cynghorir chwi i beidio â threfnu gwyliau i ddisgybl ym Mlwyddyn 10 neu 11 yn ystod tymor ysgol. Mae hyn hefyd yr un mor bwysig yn adeg y Profion Cenedlaethol ar gychwyn pob Mai ar gyfer Blynyddoedd 2 hyd at 9.

Ym Mlynyddoedd 7 i 11, bydd yr ysgol hefyd yn monitro presenoldeb disgyblion ym mhob gwers.

Am resymau diogelwch, ni fydd disgyblion Blwyddyn 7 i 11 yn cael gadael tir yr ysgol heb ganiatad y Pennaeth Ffês 2/3, a/neu y Pennaeth Strategol a’r Dirprwy Bennaeth.

Targed Presenoldeb Ysgol Bro Idris ar gyfer 2017/18 yw 95.5%