Disgyblion

Chwaraeon


Nod ac amcan Addysg Gorfforol
Cynhelir Addysg Gorfforol yn rhan o’r Cwricwlwm yn yr ysgol ac fe baratoir 2 gyfnod yr wythnos hefo disgyblion blynyddoedd Derbyn i Flwyddyn 9. Bydd pob plentyn yn cymryd rhan a threfnir y Cwricwlwm dros dri tymor fel bod amrywiaeth a chydbwysedd yn y ddarpariaeth ar gyfer y plant. Bydd y plant yn dilyn unedau gwaith gan gynnwys gymnasteg, dawns, nofio, gemau maes a tharo
a gweithgareddau awyr agored.

Canllawiau

  • Disgwylir i bob plentyn newid i wisg addas ar gyfer addysg gorfforol, yn shorts du a chrys T glas yr ysgol a threinyrs.
  • Er mwyn diogelwch ni chaniateir gwisgo modrwyau, clustdlysau nac oriawr mewn unrhyw wers addysg gorfforol.

Gofynnir yn garedig i’r rhieni hysbysu’r ysgol os oes unrhyw reswm meddygol pan na all y plentyn gymryd rhan mewn gwersi addysg gorfforol.
Yn ogystal â gwersi addysg gorfforol fe anogir disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, megis gemau pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, rygbi, gala nofio ac ati.
Drwy amrywiol brofiadau corfforol gobeithir gosod sylfaen i fywyd iach a gweithgar a dysgu pob plentyn sut i gymryd rhan a mwynhau gweithgareddau corfforol.

Nofio
Cynhelir gwersi nofio i blant Blynyddoedd Derbyn i Flwyddyn 6 yn ystod y flwyddyn. Mae’r gwersi hyn yn rhan o weithgareddau’r ysgol a disgwylir i bob plentyn gymryd rhan.