Ysgol

Amddiffyn Plant


Canllawiau Amddiffyn Plant Gwynedd

Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant yw Mr Gareth Roberts a’r Dirprwy Swyddogion Amddiffyn Plant yw Penaethiaid Safle, sef:

Awel Davies (Ysgol Bro Idris, prif safle, Dolgellau)
Heulwen Rowlands (Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy)
Elliw Saunders (Ysgol Bro Idris, Rhyd-y-main)
Steffan Rhys Nutting (Ysgol Bro Idris, Dolgellau)
Sioned Roberts (Ysgol Bro Idris, Y Friog)
Nia Roberts (Ysgol Bro Idris, Llanelltyd)

Mae’r aelodau staff uchod wedi’u hyfforddi hyd at Lefel 2 Amddiffyn Plant.

Y Llywodraethwraig Dynodedig Amddiffyn Plant yw Mr Prideaux Hattle.

Bydd yr ysgol yn cyfeirio achosion at y Swyddog Lles, Gwasanaethau Cymdeithasol / Heddlu yn unol â’r polisi Amddiffyn Plant.

Beth yw cam-drin plant?
Dyma ddywedir yn y ddogfen Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan:
“Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn drwy beri niwed iddo, neu drwy fethu gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn sefyllfa o fewn y teulu neu o fewn sefydliad, gan y
rhai sy’n eu hadnabod, neu yn llai aml, gan rywun dieithr. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod a bod angen eu hamddiffyn drwy Gynllun Amddiffyn
Plant rhyngasiantaethol.”

Y categorïau o gamdriniaeth plant:

  • Esgeulustod: methiant parhaus i ddiwallu anghenion sylfaenol a/neu seicolegol plentyn
  • Corfforol: gall gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi/sgaldio, boddi,mygu, salwch ffug
  • Emosiynol: gwneud i blant deimlo eu bod yn ddiwerth, disgwyliadau anaddas i'w hoedran/datblygiad
  • Rhywiol: gorfodi neu ddenu plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, os ydynt yn gwybod beth sy’n digwydd ai peidio

Cylchlythyr Amddiffyn Plant Ysgol Bro Idris - cliciwch yma